Datganiad Hygyrchedd

Bydd DCFW Ltd yn ceisio sicrhau bod y wefan hon ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ond ni allwn warantu y bydd y wefan ar gael 100% o’r amser. Ni fydd DCFW yn atebol os nad ydy'r wefan, am unrhyw reswm, ar gael ar unrhyw adeg, am unrhyw gyfnod, gan y gallai methiant y system, cynnal a chadw, trwsio a rhesymau eraill y tu hwnt i'n rheolaeth beri i'r wefan gael ei hatal dros dro heb rybudd.

Defnyddio’r wefan hon.

DCFW Ltd sy'n rhedeg y wefan hon. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl fedru ei defnyddio'n llwyddiannus. Mae hyn yn golygu y dylech fedru:

  1. Chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  2. Llywio'r wefan yn defnyddio bysellfwrdd yn unig
  3. Llywio’r wefan yn defnyddio unrhyw feddalwedd adnabod lleferydd y mae gennych fynediad ati
  4. Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan yn defnyddio darllenydd sgrin – os oes gennych fynediad at feddalwedd fel VoiceOver.

Mae DCFW Ltd yn cydnabod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon ar gael yn llawn. Er enghraifft, efallai na fyddwch yn gallu newid lliwiau, lefelau cyferbyniol a ffontiau – gan nad oes dulliau uniongyrchol o newid y pethau hyn. Hefyd, gallai rhai tudalennau a dogfennau:

  1. Fod ar ffurf pdf a ddim yn gwbl hygyrch
  2. Gael atodiadau nad ydynt wedi'u hysgrifennu'n glir
  3. Gael tudalennau â chyferbyniad lliw gwael
  4. Gael teitlau tudalen sydd ddim yn unigryw
  5. Gael delweddau nad oes ganddynt destun amgen
  6. Gael testun cyswllt sydd ddim efallai'n disgrifio diben y ddolen

Os na allwch gael mynediad i rannau o’r wefan hon a bod angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni a rhowch wybod i ni. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, dywedwch wrthym hefyd beth ydyw.

Mae DCFW Ltd yn ceisio gwella ei wasanaethau a hygyrchedd ei wefan bob amser. Os ydych yn cael unrhyw broblemau neu'n meddwl nad ydym yn bodloni ein gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni - connect@dcfw.org

Os ydych chi eisiau ymholi ynghylch polisïau eraill DCFW, cysylltwch â ni.

Gallwch gysylltu â ni hefyd dros y ffôn a drwy’r post:

Comisiwn Dylunio Cymru (DCFW Ltd)

4edd Llawr, Adeiladau Cambrian

Sgwâr Mount Stuart

CAERDYDD CF10 5FL

Rhif ffôn 020 2045 1964